Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn ystyried a ddylid dwyn achos yn erbyn y cricedwr Ben Stokes yn dilyn ffrwgwd y tu allan i glwb nos ym Mryste.

Mae’r chwaraewr amryddawn 26 oed wedi’i wahardd am y tro gan Fwrdd Criced Cymru a Lloegr (ECB), sy’n golygu nad yw e wedi gallu chwarae yng Nghyfres y Lludw yn Awstralia hyd yn hyn.

Mewn datganiad, dywedodd Heddlu Avon a Gwlad yr Haf fod soced llygad dyn 27 oed wedi cael ei dorri yn ystod y ffrwgwd ar Fedi 25.

Cafodd Ben Stokes ei arestio ar amheuaeth o achosi niwed corfforol, ac fe gafodd ei ryddhau tra bod yr ymchwiliad yn parhau.

Mae tri dyn arall, gan gynnwys y cricedwr Alex Hales, wedi cael eu holi mewn perthynas â’r digwyddiad.

Mae disgwyl cyhoeddiad gan Wasanaeth Erlyn y Goron maes o law.