Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ystyried y posibilrwydd o ailagor rheilffyrdd a gafodd eu cau yn yr 1960au gan yr Arglwydd Beeching.

Yn ôl yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth, Chris Grayling, mi fydd ei adran yn bwrw ati i geisio canfod leins a gorsafoedd sydd yn werth eu hailagor.

Y prif nod, meddai, fydd dod o hyd i orsafoedd a allai hybu’r economi, annog adeiladu tai a lleddfu’r pwysau presennol ar y rhwydwaith.

“Rydan ni angen gweithio mewn ffordd newydd er mwyn helpu’n rheilffyrdd i ymdopi â’r heriau sy’n eu hwynebu,” meddai Chris Grayling.

“Rhaid ehangu ein rhwydwaith er mwyn creu swyddi ac er mwyn hybu twf tai ledled Prydain.”

Arglwydd Beeching

Cafodd miloedd o orsafoedd eu cau ledled gwledydd Prydain rhwng 1964 ac 1970 yn sgil adroddiad gan Gadeirydd British Railways ar y pryd, Dr Richard Beeching.

Ymysg y rhwydweithiau gafodd eu heffeithio roedd llinell Caerfyrddin-Aberystwyth a Rheilffordd Calon Cymru – llinell oedd yn cysylltu Llanelli gyda’r Mers.