Mae  dirprwy Brif Weinidog Iwerddon wedi ymddiswyddo heddiw.

Mae Frances Fitzgerald wedi bod ynghanol dadl a allai fod wedi arwain at etholiad brys yn Iwerddon cyn diwedd y flwyddyn.

Dywedodd ei bod yn camu o’r neilltu wrth i’r anghytundeb hwnnw fygwth y cytundeb gyda’r blaid sy’n cefnogi llywodraeth leiafrifol y blaid Fine Gael.

Mae Frances Fitzgerald wedi cadarnhau ei bod hi’n ymddiswyddo er mwyn osgoi etholiad brys sydd â’r “posibilrwydd i ansefydlogi” y sefyllfa wleidyddol yn Iwerddon.

Daw hyn wedi i gyfres o e-byst yn deillio’n ôl i 2015 gael eu rhyddhau nos Lun yn dangos ei bod yn ymwybodol o sgandal yn ymwneud â heddlu Iwerddon, Garda.

Mi ymddiswyddodd oriau’n unig cyn y byddai’n wynebu pleidlais o ddiffyg hyder, ac mae Frances Fitzgerald yn pwysleisio ei bod yn rhoi buddiannau’r wlad cyn ei buddiannau ei hun.

“Braint mwyaf fy mywyd yw cael gwasanaethu yn y llywodraeth, ond credaf fod angen imi gymryd y penderfyniad hwn i osgoi etholiad cyffredinol na fyddai’n cael ei groesawu ac sydd â’r posibilrwydd i ansefydlogi pethau yn y cyfnod pwysig, hanesyddol hwn,” meddai.

Mae Leo Varadkar, Prif Weinidog Iwerddon, wedi derbyn ei hymddiswyddiad.