Mae actor a arferai fod yn rhan o’r opera sebon Coronation Street wedi pledio’n euog i ddau gyhuddiad o ymosodiad rhywiol.

Clywodd Llys yr Ynadon Manceinion fod Bruno Langley, a arferai chwarae rhan Todd Grimshaw yn yr opera sebon, wedi cyffwrdd â dwy ddynes mewn cyngerdd ym Manceinion fis diwethaf.

Cafodd yr actor 34 oed ei wahardd o’r gyfres wrth i ymchwiliad mewnol gael ei gynnal i’r honiadau.

Clywodd y llys ei fod wedi cyffwrdd â dwy ddynes arall y noson honno hefyd, ond nad oedd wedi cael ei gyhuddo am droseddau’n ymwneud â’r rheiny.

Cafodd Bruno Langley orchymyn cymunedol o 12 mis a gorchymyn i dalu £250 i’r ddwy ddioddefwraig ac fe fydd yn rhaid iddo fynd ar y Gofrestr Troseddwyr Rhyw am y pum mlynedd nesaf.

Dywedodd yr actor ei fod yn cael cymorth am broblemau alcohol “er mwyn sicrhau nad yw hyn yn digwydd eto.”