Cynyddu mae’r pwysau ar yr Ysgrifennydd Brexit David Davis i drosglwyddo manylion llawn o’i hasesiad i effaith posib Brexit ar yr economi i Aelodau Seneddol.

Roedd David Davis yn wynebu beirniadaeth lem ar ôl iddo roi fersiwn o’r dogfennau a oedd wedi’i golygu i’r Pwyllgor sy’n gysylltiedig â gadael yr Undeb Ewropeaidd. Roedd y fersiwn honno yn edrych ar 58 sector o’r economi.

Mewn llythyr at gadeirydd y pwyllgor Hilary Benn, dywedodd David Davis bod y papurau wedi cael eu golygu oherwydd nad oedd sicrwydd y byddan nhw’n cael eu cadw’n gyfrinachol.

Ond mae wedi cael ei gyhuddo gan y Blaid Lafur o dorri rheolau pleidleisio’r  Senedd sy’n dweud bod yn rhaid i’r dogfennau gael eu rhyddhau i’r pwyllgor.

Mae llefarydd Brexit yr wrthblaid Syr Keir Starmer wedi cyhuddo’r Llywodraeth “o drin y Senedd gyda dirmyg,” mewn cyfweliad ar raglen Today ar BBC Radio 4.