Mae disgwyl i drafodaethau barhau yn Iwerddon fore heddiw (Tachwedd 28) wrth i brif bleidiau’r wlad geisio dod i gytundeb.

Mae amser yn brin i ddod i gyfaddawd ac osgoi etholiad cyffredinol brys cyn y Nadolig ac mae disgwyl i bleidlais o ddiffyg hyder gael ei chynnal yn y Dail, yn Nulyn prynhawn heddiw.

Ar hyn o bryd, plaid Fine Gael sydd mewn grym yn Iwerddon, ac mae eu llywodraeth leiafrifol yn ddibynnol ar gefnogaeth plaid Fianna Fail.

Ond, bellach mae’r berthynas rhwng y ddwy blaid wedi suro, gyda Fianna Fail yn galw am ddiswyddiad y Tanaiste,  Frances Fitzgerald.

Daw’r galw yn sgil cyhuddiadau bod Frances Fitzgerald wedi anwybyddu tystiolaeth o ymddygiad “ymosodol” gan heddlu’r wlad mewn achos llys.