Mae gyrrwr fan wedi cael ei arestio ar amheuaeth o geisio llofruddio plismon drwy ei daro â’i fan yn Lerpwl.

Cafodd y plismon anafiadau difrifol yn yr hyn y mae’r heddlu’n ei alw’n “ymosodiad ffiaidd” yn ardal Norris Green y ddians neithiwr.

Cafodd y gyrrwr 34 oed ei arestio ar amheuaeth hefyd o yrru dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau ac o fod â chanabis yn ei feddiant.

Mae lle i gredu nad yw bywyd y plismon mewn perygl.

 

Mae’r ymchwiliad yn parhau, ac mae’r heddlu wedi apelio am dystion.