Mae Archesgob Caergaint, y Gwir Barchedig Justin Welby wedi mynegi pryder fod rhaid i bobol sy’n gweithio droi at fanciau bwyd oherwydd tlodi.

Mae e wedi galw am wneud mwy i helpu pobol sy’n ei chael hi’n anodd cael deupen llinyn ynghyd, wrth i ymchwil awgrymu bod mwy na phum miliwn o weithwyr yng ngwledydd Prydain yn ennill llai na’r cyflog byw.

‘Cymdeithas sy’n gyfiawn’

Ar raglen Peston on Sunday ITV, dywedodd: “Mae’n amlwg yn cynhyrchu swyddi da iawn, mae llawer o swyddi ar hyn o bryd, mae diweithdra’n isel, mae yna newyddion da.

 

“Ond yr hyn ry’n ni’n ei weld yn Eglwys Loegr ac mewn eglwysi eraill, yr holl eglwysi eraill gyda’i gilydd, yw fod y rhan fwyaf o bobol sy’n dod i’n banciau bwyd erbyn hyn mewn gwaith.

“Mae hynny’n arwydd nad yw gwaith yn codi pobol allan o dlodi yn y modd y bydden ni’n ei obeithio mewn cymdeithas sy’n gyfiawn.”

Mae e wedi galw am fuddsoddi mewn sgiliau a phrentisiaethau.