Y cerddor, Annie Lennox, fydd Canghellor benywaidd cyntaf Prifysgol Glasgow Caledonian.

Fe fydd hi’n olynu’r Athro Muhammad Yunus i’r swydd yfory (dydd Gwener, Tachwedd 24).

Mae’r gwaith yn cynnwys dyletswyddau ffurfiol a sermonïol, cyflwyno graddau, yn ogystal â chefnogi a hyrwyddo’r brifysgol a’i gweledigaeth.

Mae Annie Lennox, meddai’r brifysgol, “yn ymgorffori gwerthoedd a chenhadaeth” y sefydliad.

“Anrhydedd fawr”

Mae cyn-gantores deuawd yr Eurythmics yn dweud ei bod yn edrych ymlaen yn arw at gamu i’r swydd.

“Mae’n anrhydedd fawr,” meddai Annie Lennox. “Rydw i’n derbyn yn wylaidd, ac am wneud fy ngorau i wasanaethu’r sefydliad hyd at eithaf fy ngallu.”

Mae hi eisoes yn llysgennad ar gyfer mudiadau UNAIDS, Oxfam, Amnest Rhyngwladol a’r Groes Goch. Yn 2011, fe dderbyniodd Wobr Merched Hedd gan sefydliad Nobel am ei gwaith ym maes rhwystro HIV/AIDS, yn enwedig ymysg merched a phlant.