Mae Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd, Jean-Claude Juncker, wedi cadarnhau y bydd yn cyfarfod â Phrif Weinidog Prydain ar ddechrau mis Rhagfyr.

Daw hyn wrth i’r pwysau ddwysáu ar Theresa May i symud y trafodaethau masnach yn eu blaen, ac mae disgwyl iddi ymweld â Brwsel yfory.

Yn rhan o’r trafodaethau hyn, mae adroddiadau y gallai gynnig talu mwy i’r Undeb Ewropeaidd er mwyn cyflymu’r trafodaethau masnach ym mis Rhagfyr.

Er nad oes ffigwr penodol wedi’i gadarnhau, mae adroddiadau’n awgrymu y gallai’r llywodraeth ystyried dyblu eu cynnig i £38bn.

Mi fydd Theresa May yn cyfarfod â Jean-Claude Juncker ar Ragfyr 4 ac wedi hynny mi fydd y Cyngor Ewropeaidd yn penderfynu ar eu safbwynt nhw ar y trafodaethau masnach.

“Dylai’r cyfarfod hwn gael ei weld yn rhan o’r drefn rhesymegol,” meddai llefarydd ar ran y Comisiwn Ewropeaidd.