Mae’r llofrudd, Jon Venables, yn ei ôl yn y carchar am yr eildro, ar ôl iddo gael ei ddal â delweddau o blant yn cael eu cam-drin yn ei feddiant.

Yn ôl papur newydd The Sun, fe gafodd ei arestio yr wythnos ddiwethaf, ar ôl i swyddogion ddod o hyd i ddeunydd anweddus ar ei gyfrifiadur tra’n archwilio ei gartref.

Fe wnaeth Jon Venables, ynghyd â Robert Thompson, arteithio a lladd James Bulger, plentyn dwyflwydd oed, yn 1993. Ar y pryd, roedd y ddau ohonyn nhw’n ddeg oed, ond bellach maen nhw’n 35 oed a than drwydded.

Mae’r achos o arestio honedig yn dilyn digwyddiad yn 2010 pan gafodd Jon Venables ei hel yn ôl i’r carchar am lawrlwytho a rhannu pornograffi plant.

Troseddu ar ôl gadael y carchar

Ar ôl treulio wyth mlynedd yn y carchar, cafodd y ddau ganiatâd i aros yn anhysbys am weddill eu bywydau a rhoddwyd enwau newydd i’r ddau ar ôl eu rhyddhau yn 2001.

Aeth Jon Venables ymlaen i droseddu eto a chael ei arestio am godi twrw a bod â chocên yn ei feddiant yn 2008.

Yn 2010, cafodd ei garcharu am ddwy flynedd ar ôl pledio’n euog o lawrlwytho delweddau o blant yn cael eu cam-drin.