Mae cyllideb Philip Hammond yn cynnwys rhoi £1.2bn i Gymru – sy’n cyfateb i 2% o gyllideb flynyddol Llywodraeth Cymru.

Mae’r arian yn dod i Gymru yn unol â Fformiwla Barnett, ac fe fydd yn cael ei rannu dros gyfnod o bedair blynedd.

Fe fydd tollau pontydd Hafren yn dod i ben erbyn diwedd 2018, a thrafodaethau’n dechrau i sefydlu cytundebau twf i’r gogledd a’r canolbarth.