Mae dyn wedi cael ei arestio yn Sir Gaerhirfryn dan y Ddeddf Gwrth-Derfysgaeth.

Fe ddaeth cadarnhad fod yr heddlu lleol wedi cael gwarant i archwilio dau gyfeiriad, a dyna pryd y cafodd dyn 31 oed o Nelson ei ddwyn i’r ddalfa dan adran 40 (1) (b) o’r ddeddf – sef y rhan sy’n delio â chomisiynu, paratoi neu weithredu cynllwyn terfysgol.

“Rydyn ni’n gwerthfawrogi fod y math yma o beth yn gallu peri i bobol boeni,” meddai llefarydd ar ran yr heddlu, “ond dydi pobol leol ddim mewn peryg.

“Mi fyddwn ni’n parhau i adael i bobol leol wybod am y diweddara’, ac unwaith y byddwn ni’n gallu dweud mwy am natur sensitif yr ymchwiliad yma, mi fyddwn ni’n gwneud hynny.”

Yn y cyfamser, maen nhw’n gofyn i bobol fod ar eu gwyliadwraeth, ac i gysylltu ar y rhif 999 os y byddan nhw’n gweld unrhyw beth y maen nhw’n ei ystyried yn amheus.