Fe fydd tunelli o fwyd yn cael eu gadael gyferbyn a Downing Street heddiw fel rhan o brotestiadau yn erbyn polisïau llymder y Llywodraeth a’r Credyd Cynhwysol.

Ddiwrnod cyn y Gyllideb, y neges yw y bydd miloedd yn rhagor o bobl yn cael eu gorfodi i ddibynnu ar fanciau bwyd dros y gaeaf.

Yn ôl y mudiad Cynulliad y Bobol roedden nhw’n awyddus i wneud datganiad “cyhoeddus iawn” bod polisïau’r Llywodraeth yn arwain at dlodi i nifer o deuluoedd.

Dywedodd y mudiad bod “angen Llywodraeth arnom a fydd yn cefnu ar Gredyd Cynhwysol” ac sy’n sicrhau bod “gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu hariannu’n iawn”.

Fe fydd y bwyd yn cael ei drosglwyddo i ganolfan ddosbarthu bwyd, yr Ymddiriedolaeth Trussell, yn dilyn y brotest.