Mi allai Prydain orfod talu mwy er mwyn cyflymu’r broses a’r trafodaethau masnach wrth adael yr Undeb Ewropeaidd.

 

Daw hyn wedi i’r Prif Weinidog, Theresa May, gael cefnogaeth i’r cynnig hwn gan aelodau o’i chabinet gan gynnwys yr Ysgrifennydd Tramor, Boris Johnson.

 

Er nad oes ffigwr penodol wedi’i gadarnhau, mae adroddiadau’n awgrymu y gallai’r llywodraeth ystyried dyblu eu cynnig i £38 biliwn.

 

Bwriad hynny fyddai cyflymu’r trafodaethau masnach wedi i Donald Tusk, Llywydd y Cyngor Ewropeaidd, alw ar Brydain i symud pethau yn eu blaen erbyn dechrau mis Rhagfyr.

 

Mae disgwyl i Theresa May gwrdd â Donald Tusk ym Mrwsel ddydd Gwener.

 

‘Symud ymlaen’

 

Nid yw Llywodraeth Prydain wedi cadarnhau’r adroddiadau am y cynnig hwn, ac yn ôl llefarydd ar ran Stryd Downing “dylai’r Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd symud ymlaen gyda’i gilydd.”

 

Ond mae rhai Aelodau Seneddol Ceidwadol y meinciau cefn wedi beirniadu’r cynnig gyda Robert Halfon, AS Harlow, yn dweud y byddai’r “cyhoedd yn mynd yn bananas” petai rhaid talu swm o’r fath.

 

Mesur Ymadael

 

Mae disgwyl hefyd i’r Mesur Ymadael â’r Undeb Ewropeaidd gael ei drafod gan Aelodau Seneddol yn y Senedd heddiw.

 

Mae’r cyn-Twrnai Cyffredinol, Dominic Grieve, wedi cynnig y dylai Hawliau Sylfaenol Siarter yr Undeb Ewropeaidd barhau’n berthnasol i’r Deyrnas Unedig ar ôl gadael yr undeb gyda rhai o’r wrthblaid yn galw am gefnogi hynny.