Mae’r cwmni sy’n berchen ar Nwy Prydain yn dweud eu bod am gael gwared ar brisiau syflaenol nwy a thrydan i gwsmeriaid newydd ynghyd â chyfres o newidiadau eraill.

Yn ôl cwmni Centrica, byddai cael gwared ar y prisiau sylfaenol newidiol (SVT) yn arwain at farchnad ynni fwy effeithiol yn hytrach na chyflwyno ymyrraeth bellach gan Lywodraeth Prydain.

Daw hyn yn dilyn awgrymiadau fod Llywodraeth Prydain yn bwriadu cyflwyno cap ar brisiau nwyddau ynni.

“Marchnad decach”

Mae’r cwmni’n cynnig cyflwyno anfonebau symlach a thariff cyfnod penodol i gwsmeriaid nad sy’n chwilota am gytundebau newydd, ac maen nhw’n galw ar y llywodraeth ac Ofgem i ystyried y newidiadau er mwyn creu “marchnad decach” heb reoliadau ar brisiau.

Yn ôl Iain Conn, Prif Weithredwr Centrica, bydd y newidiadau hyn yn “gwella marchnad ynni y Deyrnas Unedig” i’w cwsmeriaid.

“Mae hyn yn dechrau gyda gwaredu â’r prisiau sylfaenol newidiol (SVT) sy’n cyfrannu at lefelau is o gysylltiad cwsmeriaid,” meddai.

Mae’r cwmni’n dweud y byddai’r newidiadau’n cael eu gweithredu erbyn diwedd mis Mawrth y flwyddyn nesaf.