Mae disgwyl i Theresa May a gweinidogion y Cabinet sy’n gyfrifol am drafodaethau Brexit, drafod setliad ariannol Prydain i’r Undeb Ewropeaidd (UE) heddiw.

Mae Brwsel wedi mynnu bod yn rhaid dod i gytundeb ynglŷn â’r setliad i adael yr UE er mwyn symud y trafodaethau masnach ymlaen.

Fe fydd is-bwyllgor y Cabinet yn cwrdd ddydd Llun ar ôl i’r Canghellor Philip Hammond ddweud y bydd Prydain yn gwneud cynnig i’r UE o fewn y tair wythnos a hanner nesaf ynglŷn â’r setliad.

Mae llywydd y Cyngor Ewropeaidd Donald Tusk wedi dweud bod yn rhaid i Brydain ddod i gytundeb ynglŷn â’r setliad a ffin Iwerddon erbyn dechrau mis nesaf er mwyn i arweinwyr yr UE allu datgan yn uwch-gynhadledd y cyngor bod digon o gynnydd wedi cael ei wneud i symud y trafodaethau ymlaen

Mae adroddiadau, sydd wedi cael eu wfftio gan Rif 10, yn awgrymu y byddai Theresa May yn barod i gynnig £20 biliwn ychwanegol mewn taliadau a fyddai’n dod a’r cyfanswm i £38 biliwn. Mae Brwsel wedi gofyn am £53 biliwn.