Mae Llywodraeth Prydain wedi awgrymu eu bod nhw’n barod i godi trethi ar becynnau bwyd plastig sydd yn cael eu defnyddio unwaith yn unig.

Eu bwriad yw lleihau gwastraff, ac fe allai’r cynllun gael ei gyhoeddi fel rhan o Gyllideb y Canghellor Philip Hammond, wrth iddo alw am dystiolaeth ynghylch effaith codi trethi ar lefelau gwastraff.

Mae’n rhan o strategaeth 25 mlynedd y llywodraeth, a hynny’n dilyn codi tâl am fagiau plastig.

Bywyd gwyllt

Mae pryderon bod y lefelau cynyddol o wastraff yn cael effaith ddinistriol ar fywyd gwyllt, wrth i fwy na miliwn o adar a 100,000 o famoliaid y môr farw bob blwyddyn ar ôl bwyta gwastraff neu fynd yn sownd mewn pecynnau a gwastraff arall.

Mae’r mater hefyd wedi cael sylw yn un o raglenni Blue Planet Syr David Attenborough i’r BBC.

Mae 12 miliwn tunnell o wastaff yn mynd i’r môr bob blwyddyn, a hynny’n cyfateb i werth un lori sbwriel bob munud.

Mae digon o blastig yn y Môr Tawel i orchuddio holl dir Ffrainc.

Ac mae digon o blastig yn cael ei daflu yng ngwledydd Prydain fel y byddai’n llenwi Neuadd Albert 1,000 o weithiau.

Croesawu cynlluniau

Mae grwpiau amgylcheddol wedi croesawu ymdrechion Llywodraeth Prydain i ddatrys y sefyllfa.

Dywedodd llefarydd ar ran Greenpeace UK fod y broblem yn “argyfwng byd-eang”, a bod ymateb Llywodraeth Prydain yn “ddatganiad o fwriad”.

Ychwanegodd llefarydd ar ran y WWF fod “unrhyw weithgarwch i herio plastic defnydd un tro yn beth da”.

Ac mae llefarydd ar ran Cyfeillion y Ddaear wedi galw am wahardd pecynnau plastig yn llwyr dros gyfnod o amser.