Mae’r beiciwr modur Daniel Hegarty o Nottingham wedi marw ar ôl cwympo oddi ar ei feic yn ystod Grand Prix Macau yn China.

Roedd gyrrwr Topgun Racing Honda yn troi cornel pan ddaeth oddi ar ei feic ar y chweched cylched, ac fe gafodd ei daflu i mewn i fariau diogelwch gan golli ei helmed.

Daeth y ras i ben ar unwaith, ac fe gafodd ei gludo i’r ysbyty, ond fe fu farw cyn cyrraedd.

Mae’r awdurdodau wedi dweud y byddan nhw’n cynnig pob cymorth i’w deulu.

Ddydd Gwener, fe ddywedodd Daniel Hegarty fod ei feic “yn haws o lawer i’w reidio” ar ôl gwaith cynnal a chadw arno.