Y Sais, Richard Leonard yw arweinydd newydd Llafur yr Alban.

Mae’n olynu Kezia Dugdale, oedd wedi ymddiswyddo ym mis Awst, gan drechu Anas Sarwar yn y ras.

Enillodd Richard Leonard 56.7% o’r bleidlais, o’i gymharu a 43.3% i Anas Sarwar, a fe oedd y ffefryn ar ôl llwyddo i sicrhau cefnogaeth yr holl undebau llafur.

 

 

 

Mae e’n uchel ei barch ymhlith pob carfan o’r blaid, ac mae e wedi addo dileu “cenedlaetholdeb” yr SNP yn yr Alban, ac yntau wedi’i eni a’i fagu yn Lloegr ac wedi cael addysg breifat.