Bydd telethon Plant Mewn Angen yn cael ei darlledu heno, gyda’r nod o dorri record llynedd a chodi dros £60 miliwn i blant llai ffodus.

Gan ddilyn y fformat arferol mae disgwyl noson o gomedi, rhaglenni arbennig a pherfformiadau cerddorol gan amryw o artistiaid.

Yn cyflwyno’r digwyddiad eleni bydd Graham Norton ynghyd â Mel Giedroyc, Rochelle Humes, Marvin Humes, Ade Adepitan a Tess Daly.

Cafodd ei darlledu am y tro cyntaf yn 1980 gyda’r Fonesig Esther Rantzen, Sue Lawley a’r diweddar Syr Terry Wogan yn cyflwyno.

Mae’r sioe wedi cael ei chynnal yn flynyddol ers hynny, ac ers dechrau Plant Mewn Angen wedi llwyddo i godi cyfanswm o £800,000,000.

Bydd yn cael ei darlledu heno (Tachwedd 17) ar BBC One, o 7.30yh ymlaen.