Mi fydd yr hen bapurau deg punt yn dod i ben ym mis Mawrth 2018, pan fydd siopau’n derbyn y papurau newydd yn unig.
Cafodd y papurau plastig newydd eu rhyddhau ym mis Medi eleni gan Fanc Lloegr, ac mae gan bobol tan 1 Mawrth 2018 i wario’r hen bapurau deg punt.
Ond hyd yn oed ar ôl hynny, mi fydd banciau’n parhau i dderbyn yr hen bapurau.
Darnau punt a phum punt
Mae’r papurau newydd yn cynnwys llun o’r awdures Jane Austen, ac mae wedi’i wneud o’r un defnydd â’r papurau pum punt newydd, sef polymer.
Mae’r defnydd wedi’i ddylunio i bara’n hwy ond mae’r papurau wedi’u beirniadu am eu bod yn cynnwys elfen o fraster anifeiliaid.
Nid oes modd gwario’r hen ddarnau punt mewn siopau bellach, ond mae banciau’n parhau i’w derbyn.