Mae arweinwyr busnes Ewropeaidd wedi rhybuddio Theresa May bod angen gwneud cynnydd ar frys yn y trafodaethau Brexit er mwyn osgoi colli swyddi a buddsoddiad yn y Deyrnas Unedig.

Clywodd y Prif Weinidog bod busnesau yn “hynod bryderus” am arafwch y trafodaethau gyda Brwsel a’i bod yn hanfodol bod caniatâd ar gyfer dechrau trafodaethau masnach yn cael ei roi yng nghynhadledd arweinwyr yr Undeb Ewropeaidd ym mis Rhagfyr.

Cafodd Theresa May ei hannog hefyd i gadw’r DU o fewn y farchnad sengl mewn trefniant dros dro cyn gadael yr UE yn ffurfiol ym mis Mawrth 2019, ac i ddod i gytundeb ynglŷn â hynny erbyn y Nadolig.

Roedd Conffederasiwn Diwydiant Prydain (CBI) yn ogystal â sefydliadau o’r Almaen, Ffrainc a gwledydd eraill yr UE yn bresennol yn y trafodaethau gyda Theresa May.