Mae nifer o siopau’r stryd fawr sy’n wynebu cau wedi disgyn i’w lefel isaf ers 2010.

 

Mae astudiaeth o fwy na 67,000 o siopau cadwyn ym Mhrydain yn dangos fod tua 2,500 o siopau wedi cau yn ystod hanner cynta’r flwyddyn.

 

Roedd hyn yn gwrthwneud y tua 2,300 o siopau wnaeth agor o fewn yr un cyfnod, ac ar gyfartaledd, roedd 14 o siopau yn cau bob dydd, sef y lefel isaf ers 2010.

 

Yn ôl un o ymchwilwyr yr astudiaeth ar ran PwC, Mike Jervis, mae nifer “cymharol fach” o siopau’n cau yn adlewyrchu “amgylchedd mwy cynaliadwy.”

 

“Mae’r amgylchedd, wrth gwrs, yn parhau’n ansicr gyda data diweddar yn dangos amgylchedd manwerthu fwy heriol,” meddai wedyn.