Mae teuluoedd cannoedd o bêl-droedwyr wedi dweud eu bod nhw’n barod i roi ymennydd eu hanwyliaid i ymchwilwyr sy’n ceisio profi’r cyswllt rhwng dementia a phenio pêl-droed.

Yn ôl Sefydliad Jeff Astle, maen nhw wedi derbyn gohebiaeth gan deuluoedd mwy na 300 o gyn-chwaraewyr yn dweud eu bod nhw’n barod i roi ymennydd eu hanwyliaid ar ôl iddyn nhw farw.

Bu farw Jeff Astle o ganlyniad i ddementia, ac yntau ond yn 59 oed.

Cyn-chwaraewyr

Ymhlith y cyn-chwaraewyr y mae eu teuluoedd yn barod i helpu mae Ernie Moss, sy’n 68 oed.

Mae e’n dioddef o enceffalopathi trawmatig cronig (CTE), a dyw e ddim yn gallu siarad na chwblhau tasgau bob dydd, ac yntau wedi dioddef o’r cyflwr ers ei 50au.

Dywedodd ei ferch Nikki wrth y Sunday Telegraph: “Fel teulu, hoffen ni roi ei ymennydd oherwydd mae’n mynd i helpu eraill.

“Mae’n beth torcalonnus, ofnadwy a dirdynnol i orfod ei wneud, ond dw i’n credu mai dyna y byddwn ni’n ei ddarganfod [y cyswllt].

“Roedden ni i gyd – fy mam, fy chwarae a minnau – wedi penderfynu’n unigol fod hwn yn rhywbeth y mae angen ei wneud.”

Rhaglen ddogfen

Fe fydd rhaglen ddogfen y BBC heno, Alan Shearer: Dementia, Football and Me yn dangos rhannau o ymennydd Jeff Astle.

Bu farw’r cyn-chwaraewr yn 2002 ar ôl bod yn dioddef o CTE, ac mae ei deulu wedi bod yn ymgyrchu i ddarganfod y cyswllt rhwng pêl-droed a dementia ers hynny.

Mae Alan Shearer yntau wedi mynegi ei bryder y gallai penio’r bêl yn ystod ei yrfa arwain at ddementia yn nes ymlaen yn ei fywyd.

Mae disgwyl i astudiaeth gael ei chyhoeddi dros yr wythnosau nesaf i ddarganfod a yw pêl-droedwyr mewn perygl uwch na’r arfer o gael anafiadau difrifol i’r ymennydd. Cymdeithas Bêl-droed Lloegr a Chymdeithas y Pêl-droedwyr Proffesiynol sydd wedi comisiynu’r astudiaeth.