Dylai Llafur fod 15 i 20 pwynt ar y blaen i’r Ceidwadwyr yn y poliau piniwn o ystyried y “llanast” mae’r llywodraeth ynddo, yn ôl Tony Blair.

Er iddo fod yn feirniadol o Jeremy Corbyn ar hyd y blynyddoedd, fe wnaeth y cyn-brif weinidog ei ganmol am y ffordd y gwnaeth arwain yr ymgyrch etholiadol.

Rhybuddiodd, fodd bynnag, fod poblogrwydd y Blaid Lafur ymhell y tu ôl i’r hyn y dylai fod.

“Mae’n bwysig inni gofio bod y llywodraeth yma mewn mwy o lanast nag unrhyw lywodraeth y gallaf ei gofio,” meddai Tony Blair.

“Hyd yn oed yn yr 1990au, roedd y llywodraeth Dorïaidd yn baragon o sefydlogrwydd o gymharu â hyn, ac eto rydym bwynt neu ddau ar y blaen.

“Dw i’n talu teyrnged i’r ymgyrch a redodd Jeremy Corbyn, dw i’n meddwl iddo ddangos llawer o gymeriad ac ennyn llawer o frwdfrydedd. Dw i’n derbyn hyn i gyd.

“Ond dw i’n dal i ddweud y dylen ni fod 15 i 20 pwynt ar y blaen erbyn hyn.”