Mae merch 18 oed wedi gwadu ei bod yn cynllwynio gweithred frawychol, gan geisio teithio i Syria.
Mae Sandeep Samra yn cael ei chyhuddo o wneud cais am basport, gofyn am gyngor ynglyn â sut i gyrraedd y wlad, ynhyd â cheisio dogfennau teithio ffug, mewn ymgais i geisio cyrraedd y Dwyrain Canol.
Fe gafodd ei harestio yn gynharach eleni, fel rhan o ymgyrch gan Uned Gwrth-Frawychiaeth, Heddlu’r West Midlands, ac mae hi wedi’i chyhuddo o geisio paratoi ar gyfer gweithred frawychol.
Mewn gwrandawiad yn Llys y Goron Birmingham, mae Sandeep Samra wedi pledio’n ddi-euog.
Mae’r achos wedi’i ohirio tan Ionawr 22, 2018, ac fe fydd y cyhuddiedig yn cael ei chadw yn y ddalfa tan hynny.