Fe fydd Theresa May yn ad-drefnu ei chabinet am yr ail dro mewn wythnos heddiw, ar ôl i’w Hysgrifennydd Datblygu Rhyngwladol ymddiswyddo nos Fercher.

Cyfaddefodd Priti Patel fod cynnal cyfarfodydd cyfrinachol gyda rhai o wleidyddion pennaf Israel “ddim yn cyrraedd y safonau uchel” sy’n ddisgwyliedig gan aelod o’r Cabinet.

Roedd hi wedi gorfod dod yn ôl o’i thaith i Cenia yn gynnar ddoe ac, wedi cyfarfod brys â’r Prif Weinidog, fe gyhoeddodd ei hymddiswyddiad.

Mae Theresa May bellach yn wynebu her wleidyddol arall wrth geisio dod o hyd i rywun arall i fod yn lle Priti Patel, oedd yn gefnogwr amlwg o Brexit.

Cafodd ei phenderfyniad i benodi Gavin Williamson yn Ysgrifennydd Amddiffyn ar ôl i Michael Fallon ymddiswyddo’r wythnos ddiwethaf ei feirniadu’n chwyrn gan rai o’i Haelodau Seneddol.

Fe allai felly fod yn awyddus i benodi cefnogwr Brexit arall yn lle Priti Patel er mwyn cadw balans yn ei Chabinet