Mae gŵr dynes Brydeinig, sydd wedi ei charcharu yn Iran, wedi erfyn ar yr Ysgrifennydd Tramor i gywiro sylwadau ynglŷn â’i wraig.

Cafodd Nazanin Zaghari-Ratcliffe ei harestio a’i charcharu wrth ymweld ag Iran, yn sgil honiadau ei bod yn cymryd rhan mewn cynllwyn yn erbyn Tehran.

Bellach mae’n wynebu pum mlynedd ychwanegol dan glo wedi i’r Ysgrifennydd Tramor Boris Johnson, ddweud wrth bwyllgor seneddol ei bod wedi ymweld â’r wlad i “ddysgu newyddiaduraeth”.

Mae cyflogwr a theulu’r ddynes yn mynnu ei bod wedi bod ar wyliau yn y wlad fel bod ei merch yn medru cwrdd â’i nain a’i thaid – nid er mwyn dysgu.

Mae awdurdodau yn Iran wedi ymateb i sylwadau Boris Johnson trwy ddweud ei fod yn dangos nad oedd Nazanin Zaghari-Ratcliffe yn ymweld â’r wlad am wyliau.

Camgymeriad difrifol?

Mae’r Ysgrifennydd Masnach Ryngwladol, Liam Fox, wedi amddiffyn Boris Johnson gan fynnu nad oedd y sylwadau yn “gamgymeriad difrifol”.

“Ymgais i danseilio’r Ysgrifennydd Tramor yw hyn,” meddai ar Sky News, “Ymgais sydd ddim yn ystyried y goblygiadau a’r esgusodion sydd yn cael eu cynnig dros gyfundrefn Iran.”

Mae Boris Johnson wedi cyfaddef y gallai fod wedi bod yn “fwy eglur” ond nad oedd ei sylwadau yn gyfiawnhad dros ehangu dedfryd Nazanin Zaghari-Ratcliffe.