Mae Prif Weinidog y Deyrnas Unedig wedi galw am greu “diwylliant newydd o barch” yn y gweithle, yn sgil y sgandal aflonyddu rhywiol ddiweddar yn San Steffan.

Bellach mae sawl aelod seneddol o sawl plaid yn wynebu honiadau am eu hymddygiad, ac mae aelodau blaenllaw o’r blaid Geidwadol eisoes wedi ymddiswyddo.

Wrth annerch cynhadledd Cydffederasiwn Diwydiant Prydain (CBI), mynnodd Theresa May bod ei phlaid yn mynd i’r afael â’r broblem a galwodd am gydweithio trawsbleidiol ar y mater.

“Mae’n rhaid i ni sefydlu diwylliant newydd o barch sydd wrth graidd ein bywyd cyhoeddus,” meddai Theresa May.

“Lle mae pawb yn medru teimlo’n hyderus eu bod yn gweithio mewn amgylchedd diogel, lle mae cwynion yn cael eu cyflwyno heb ragfarn yn eu herbyn a lle mae dioddefwyr yn gwybod bydd ymchwiliad i’w cwyn.”

Sustem gwynion

Mae’n debyg ei bod yn gobeithio sefydlu system gwynion annibynnol i bobol sydd yn gweithio yn San Steffan – ar hyn o bryd mae’n rhaid i unigolion gyflwyno cwynion i’w pleidiau.

Hefyd, mae Theresa May wedi datgelu bod yna “sawl achos” o aflonyddu rhywiol sydd heb “ymddangos yn y wasg” ond bod y Ceidwadwyr yn ymchwilio i’r achosion yma.