Mae tua £10 miliwn o ystâd bersonol y Frenhines wedi’i fuddsoddi mewn noddfa drethi dramor, yn ôl dogfennau newydd sydd wedi’u rhyddhau.
Mae’r dogfennau’n cael eu hadnabod yn Bapurau Paradwys, a dyma’r dogfennau diweddaraf i ddatgelu manylion cyllidebol gwleidyddion a ffigurau amlwg ers y Papurau Panama y llynedd.
Yn ôl adroddiadau, mi gafodd £10 miliwn o gyllid personol y Frenhines, sy’n cael ei adnabod yn Duchy of Lancaster, ei fuddsoddi yn Ynysoedd Cayman a Bermuda rhwng 2004 a 2005.
‘Un rheol i’r cyfoethog…’
Mi ddaeth y papurau i law’r papur newydd Almaeneg yn gyntaf, Suddeutsche Zeitung, ac maen nhw’n cynnwys gwybodaeth am 19 o noddfeydd trethi.
Mae Consortiwm Newyddiadurwyr Ymchwiliadol Rhyngwladol wedi archwilio’r prosiect ac, yn ôl Jeremy Corbyn, mae’r papurau’n “profi” fod “un rheol i’r cyfoethog iawn a rheol arall i’r gweddill pan mae’n dod i dalu trethi.”
Ychwanegodd llefarydd ar ran ystâd y Frenhines eu bod yn “cynnal nifer o fuddsoddiadau ac mae rhai o’r rhain mewn cronfeydd tramor.”
“Mae ein holl fuddsoddiadau yn cael eu harchwilio’n llawn ac yn gyfreithlon,” meddai wedyn.
Ymysg yr enwau eraill y mae manylion am fuddsoddiadau’r cyn-ganghellor yr Arglwydd Ashcroft ac Ysgrifennydd Masnach Donald Trump, Wilbur Ross.
‘System dreth deg yn hanfodol’
Mae llefarydd ar ran Trysorlys Llywodraeth Prydain wedi pwysleisio fod angen mynd i’r afael â chynlluniau i osgoi talu trethi.
“Ers 2010, mae’r Llywodraeth wedi sicrhau £160 biliwn ychwanegol, mwy na chyllideb flynyddol y Gwasanaeth Iechyd ym Mhrydain, ar gyfer ein gwasanaethau cyhoeddus hollbwysig” drwy fynd i’r afael â’r rhai sy’n osgoi talu trethi, meddai’r llefarydd.
“Mae hyn yn cynnwys mwy na £2.8 biliwn gan y rheiny sy’n ceisio cuddio arian dramor i osgoi talu’r hyn sy’n ddyledus ganddyn nhw.”
“Mae system dreth deg yn hanfodol ac yn rhan allweddol o’n cynllun i greu cymdeithas decach, ac rydym yn pwysleisio fod yn rhaid i bawb dalu’r hyn sy’n ddyledus, ar yr amser iawn.”