Fe fydd Theresa May yn cwrdd ag arweinwyr y pleidiau eraill heddiw er mwyn trafod system gwynion newydd yn dilyn honiadau o aflonyddu rhywiol yn San Steffan.

Daw’r cyfarfod wrth i’r Ysgrifennydd Gwladol Damian Green gael ei holi heddiw fel rhan o ymchwiliad Swyddfa’r Cabinet yn sgil honiadau bod pornograffi wedi cael ei ddarganfod ar un o’i gyfrifiaduron seneddol yn 2008.

Mae Damian Green wedi gwadu’r honiadau sydd wedi cael eu gwneud gan Kate Maltby.

Ar ôl wythnos gythryblus i’r Torïaid, pan gafodd pedwar Aelod Seneddol eu cyfeirio at bwyllgor disgyblaeth newydd yn dilyn honiadau yn eu herbyn, mae Theresa May yn ceisio cael cytundeb trawsbleidiol am fesurau newydd yn ymwneud ag aflonyddu rhywiol.

Mae’r Ysgrifennydd Cartref Amber Rudd wedi awgrymu y gallai ASau sy’n eu cael yn euog o aflonyddu rhywiol gael eu diswyddo o dan fesurau newydd.

Mae disgwyl i arweinwyr y pleidiau yng Nghymru gwrdd yfory i drafod y mater.