Mae Aelod Seneddol Albanaidd wedi honni iddi gael ei chamdrin yn rhywiol gan gydweithiwr mewn parti.

Dywedodd Monica Lennon wrth y Sunday Mail iddi gael ei chyffwrdd yn amhriodol bedair blynedd yn ôl o flaen ystafell lawn o bobol, a hynny cyn iddi ddod yn Aelod Seneddol.

Dywedodd nad oedd hi “eisiau rhoi manylion llawn ond fe wnaeth e gyffwrdd â ‘nghorff mewn modd rhywiol heb wahoddiad na chaniatâd”.

 

Ychwanegodd fod gwleidydd Llafur wedi dweud wrthi ar y pryd mai ei bai hi oedd y digwyddiad, a hynny am ei bod hi “wedi cyffroi” y dyn.

Dywedodd Monica Lennon fod y cyfan “wedi cael ei drin fel jôc” ac nad oedd hi wedi mynd â’i chwyn ymhellach oherwydd ei bod hi’n teimlo na fyddai hi’n cael ei chredu.

Aelod Seneddol yr SNP wedi ymddiswyddo

Yn y cyfamser, mae Aelod Seneddol yr SNP, Mark McDonald wedi ymddiswyddo o Lywodraeth yr Alban tros “ymddygiad sy’n cael ei ystyried yn amhriodol”.

 

Mae’r Gweinidog Gofal Plant a Blynyddoedd Cynnar wedi ymddiheuro “wrth unrhyw un dw i wedi ei ypsetio”.

Dywedod ei fod e wedi gwneud i bobol deimlo’n anghyfforddus yn sgil ymddygiad yr oedd yn ei ystyried yn “ddoniol neu’n ymgais i fod yn gyfeillgar”.

Daw ei ymddiswyddiad ar ôl i Brif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon rybuddio gwleidyddion yn Holyrood ddechrau’r wythnos i roi ystyriaeth i’w hymddygiad.