Mae merch fach saith oed a gafodd ei hanafu yn dilyn digwyddiad mewn tŷ yn Wimbledon wedi marw, meddai’r heddlu.
Cafodd hi driniaeth yn y fan a’r lle fore Gwener ar ôl i’r gwasanaethau brys gael eu galw.
Aeth Robert Peters, 55, gerbron ynadon y bore ma, wedi’i gyhuddo o geisio ei llofruddio.
Clywodd y llys bryd hynny nad oedd y ferch fach yn debygol o oroesi.
Mae disgwyl i archwiliad post-mortem gael ei gynnal yn ddiweddarach.