Mi ddylai adroddiad annibynnol ar brofiadau teuluoedd trychineb bêl-droed Hillsborough fod o gymorth i’r rheiny a gafodd eu heffeithio gan dân Tŵr Grenfell, yn ôl ymgyrchwyr.

Mae’r adroddiad wedi ei gyhoeddi gan yr Esgob James Jones yng Nghadeirlan Dinas Lerpwl heddiw, ac mae teuluoedd y 96 a fu farw yn y drychineb yn 1989 yn galw ar y Llywodraeth i dderbyn ei argymhellion yn syth.

Ymhlith yr hyn y mae’r adroddiad yn galw amdano yw’r hawl i deuluoedd cael nawdd cyfreithiol llawn mewn gwrandawiadau lle mae awdurdodau cyhoeddus yn cael eu cynrychioli; a’r angen i swyddogion yr Heddlu a chyrff cyhoeddus gydweithredu’n llawn ag ymchwiliadau.

“Angen dysgu” o drychinebau’r gorffennol

Yn ôl Margaret Apinall, Cadeirydd Grŵp Cymorth Teuluoedd Hillsborough, fe ddylai’r Llywodraeth ddarllen yr adroddiad yn llawn a “dysgu” o’r dioddefaint y mae teuluoedd Hillsborough wedi ei brofi am “nifer o flynyddoedd”.

“Mi fydd gweithredu’r diwygiadau hyn,” meddai, “yn golygu na fydd rhaid i deuluoedd Grenfell ac eraill ddioddef yn yr un modd ag y gwnaethom ni, ac rydym ni’n gobeithio y byddan nhw’n cael cyfiawnder ac atebolrwydd i’w colled.”

Angen “newid diwylliannol” sydyn

Yn ôl yr Esgob James Jones ei hun, mae’n hyderus y bydd unrhyw un sydd wedi cael eu heffeithio gan y tân yn Nhŵr Grenfell yn darllen yr adroddiad ac yn darganfod llawer i beth sy’n cyd-fynd â’u profiadau a’u teimladau.

Mae yntau hefyd wedi galw am “newid diwylliannol” yn syth.

“Er bod hwn yn ddigwyddiad hanesyddol, sef Hillsborough, ry’n ni’n delio â sefyllfa gyfoes, ac er bod yna rai newididau wedi cael eu gwneud ar hyd y ffordd, nid ydyn nhw’n agos at ddigon,” meddai.

“Ac felly, mae yna o hyd faterion lle mae sefydliadau yn barod i osod eu henwau da uwchben anghenion yr unigolion sy’n gofyn cwestiynau.”