Mae Heddlu Prydain yn ymchwilio i honiadau gan saith o ferched yn ymwneud ag ymosodiadau rhywiol gan y cynhyrchydd ffilm, Harvey Weinstein.

Yn ôl adroddiadau, mae’r heddlu wedi derbyn 11 o honiadau unigol o ymosodiadau rhywiol rhwng yr 1980au a 2015

Mi aeth y seithfed ddynes at yr heddlu ar Hydref 28 gan ddweud iddi ddioddef ymosodiad yn Llundain yn 1994

Yr wythnos diwethaf mi ddywedodd dynes arall ei bod wedi dioddef ymosodiad tu allan i’r Deyrnas Unedig yn 2012 ac yn Llundain yn 2013 a 2014.

Nid yw Scotland Yard wedi enwi Harvey Weinstein ond mae Heddlu’r Met wedi cadarnhau bod swyddogion yn ymchwilio i honiadau o ymosodiadau rhywiol fel rhan o Operation Kaguyak.

Mae’r honiadau yn ei erbyn yn cynnwys rhai gan yr actorion Angelina Jolie, Rose McGowan a Gwyneth Paltrow.