Mae disgwyl i Theresa May gynnal trafodaethau gyda Llefarydd Tŷ’r Cyffredin, John Bercow, ynglŷn ag ailwampio camau disgyblu’r Senedd yn dilyn adroddiadau o ymddygiad amhriodol tuag at ferched.

Mae rhestr o 13 o Aelodau Seneddol sy’n wynebu honiadau o ymddygiad amhriodol wedi bod yn cylchredeg yn San Steffan, yn ôl The Daily Telegraph.

Yn y cyfamser mae Rhif 10 wedi pwysleisio unwaith eto bod ymddygiad o’r fath yn “hollol annerbyniol”.

Dros y penwythnos roedd y Prif Weinidog wedi gorchymyn bod ymchwiliad yn cael ei gynnal gan Swyddfa’r Cabinet i ystyried a oedd y Gweinidog Masnach Ryngwladol Mark Garnier wedi torri’r cod gweinidogol yn sgil honiadau ei fod wedi gofyn i’w ysgrifenyddes brynu teganau rhyw ar ei ran.

Mae Theresa May hefyd yn wynebu galwadau i wahardd aelod amlwg arall o’r Blaid Geidwadol,  a chyn-weinidog y Cabinet Stephen Crabb, yn dilyn adroddiadau ei fod wedi cyfaddef anfon negeseuon testun amhriodol ar ferch 19 oed yr oedd wedi ei chyfweld am swydd.

Mewn llythyr at John Bercow, mae’r Prif Weinidog wedi dweud nad oes “dannedd” gan y system bresennol o ddelio gyda chwynion gan staff ASau.