Mae ymchwiliad ar y gweill ym maes awyr Heathrow ar ôl i gofbin cyfrifiadurol oedd yn cynnwys gwybodaeth gyfrinachol am y Frenhines gael ei ddarganfod ar y stryd.

Doedd y cofbin ddim wedi cael ei ddiogelu, ac roedd yn cynnwys gwerth 2.5GB o ddata am y teulu brenhinol, yn ôl adroddiad yn y Sunday Mirror.

Cafodd ei ddarganfod yn Stryd Ilbert yn ardal Queen’s Park yng ngorllewin Llundain.

Mae lle i gredu ei fod yn cynnwys manylion ynghylch y camau sy’n cael eu cymryd yn ystod ymweliadau’r Frenhines â’r maes awyr, y math o ddulliau adnabod sydd eu hangen i gael mynediad i fannau preifat y maes awyr a lleoliad camerâu cylch-cyfyng y maes awyr.

Dywedodd llefarydd fod diogelwch y maes awyr yn cael ei adolygu yn sgil y darganfyddiad.