Mae Barclays wedi cofrestru elw yn ystod trydydd chwarter eleni, ac mae wedi cyhoeddi mesurau i warchod yr ochr fasnachol o’r cwmni rhag creisis bancio arall fel a gafwyd yn 2008.

Fe gynyddodd elw’r banc o £837m i £1.1bn yn ystod y tri mis diwethaf, ac mae’r Prif Weithredwr, Jes Staley,

wedi disgrifio’r cyfnod fel un “arbennig o arwyddocaol”.

“Roedd trydydd chwarter 2017 yn un arbennig o arwyddocaol i Barclays oherwydd mai dyma’r cyntaf ers rhai blynyddoedd lle nad ydyn ni fel cwmni wedi bod yn ail-strwythuro o ryw fath,” meddai.

Ond mae ail-strwythuro arall ar y gweill – er mwyn cyfarfod â gofynion statudol sy’n mynnu bod yn rhaid i bob banc yng ngwledydd Prydain sy’n delio â mwy na £25bn y flwyddyn, i gadw ochr fuddsoddiadau’r cwmni ar wahân i’r ochr sy’n delio â chyfrifon y cyhoedd erbyn 2019.