Prifysgol Bangor
Mae’n bosib y bydd rhaid i brifysgolion dorri ffioedd dysgu o fewn dwy flynedd er mwyn osgoi colli myfyrwyr, yn ôl adroddiad newydd.

Mae mwyafrif y prifysgolion yng Nghymru a Lloegr, gan gynnwys Caerdydd, Bangor ac Aberystwyth, yn bwriadu codi £9,000 ar fyfyrwyr o’r flwyddyn nesaf ymlaen.

Ond fe allai prifysgolion gwtogi ffioedd i tua £7,500 o fewn dwy flynedd wrth sylweddoli fod nifer y myfyrwyr sy’n bwriadu mynychu wedi syrthio’n sylweddol.

Yn ôl adroddiad gan y Sefydliad Polisi Addysg Uwch fe fydd nifer y myfyrwyr sy’n mynd i brifysgolion sy’n codi £9,000 yn gostwng tua 8% bob blwyddyn.

Pen draw hynny fydd bwlch lletach rhwng y prifysgolion gorau a’r gwaethaf, wrth i rai o’r prifysgolion barhau i godi £9,000 a’r mwyafrif godi £7,500 neu lai.

Yng Nghymru bydd myfyrwyr sy’n mynd i brifysgolion sy’n codi £9,000 yn parhau i dalu £3,375 y flwyddyn, a Llywodraeth Cymru yn talu’r £5625 arall.

“Bydd myfyrwyr yn y prifysgolion gorau yn talu mwy ond fe fydd yn lawer iawn mwy o adnoddau ar gael iddyn nhw,” meddai’r adroddiad.

Ond pen draw hynny yw y bydd myfyrwyr o gefndiroedd difreintiedig yn ei chael hi’n anoddach cyrraedd y prifysgolion gorau, medden nhw.

Fe fyddwn nhw’n fwy tebygol o fynychu colegau neu brifysgolion rhatach, fydd yn cynnig llai o adnoddau a llai o fanteision ar ôl graddio.

‘Optimistaidd’

Ychwanegodd yr adroddiad eu bod nhw’n rhagweld y bydd twll yng nghyllideb Llywodraeth San Steffan.

Mae’r llywodraeth yn optimistaidd iawn ynglŷn â faint o fenthyciadau myfyrwyr fyddai yn cael eu talu yn ôl a pha mor fuan y byddai hynny’n digwydd, medden nhw.

“Os oes rhaid i’r Llywodraeth dalu mwy na’r disgwyl er mwyn cynnal y drefn newydd bydd rhaid torri’n ôl ymhellach ar gyllideb addysg uwch,” meddai’r adroddiad.

“Fe allai hynny arwain at leihau nifer y myfyrwyr a llai o gyfleoedd i’r rheini sy’n gadael yr ysgol.

“Os nad yw hynny’n digwydd bydd rhaid i drethdalwyr y dyfodol dalu’r pris wrth i’r Llywodraeth adennill lai o arian na’r disgwyl.”