Mae dyn wedi marw ar ôl i’r heddlu ddefnyddio Taser wrth ei arestio.

Dywedodd Heddlu Cumbria eu bod nhw wedi eu galw i adeilad yn Stryd Hartington, Barrow, yn dilyn adroddiadau fod dyn yn aflonyddu ar eraill.

“Arestiodd swyddogion yr heddlu ddyn ar amheuaeth o achosi difrod troseddol, ac yn ystod yr arestiad cafodd Taser ei ddefnyddio,” meddai llefarydd ar ran yr heddlu.

“Fe aeth y dyn yn sâl yn dilyn yr arestiad ac aethpwyd ag ef i Ysbyty Cyffredinol Furness.”

Fe fu farw’r dyn oedd yn ei 20au ac yn byw yn lleol yn ddiweddarach.

Mae’r heddlu wedi cyfeirio’r achos at Gomisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu.