Mae’n bosib y gallai pobol sydd wedi eu cael yn euog o chwarae rhan yn y terfysg yn Lloegr yr wythnos diwethaf golli eu budd-daliadau, meddai’r Llywodraeth heddiw.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau, Iain Duncan Smith, fod unrhyw un sy’n cael ei garcharu am drosedd eisoes yn colli ei fudd-daliadau.

Ond roedd yn ystyried ymestyn hynny i bobol nad oedd yn cael eu hanfon i’r carchar, meddai.

“Rydw i ar hyn o bryd yn edrych i weld a yw’n bosib i bobol golli eu budd-daliadau am gyfnod os nad ydyn nhw’n treulio amser yn y carchar,” meddai wrth BBC Breakfast.

“Rydw i’n credu ei fod yn well gwneud hyn drwy’r farnwriaeth na cheisio gwneud hyn drwy’r Adran ei hun.”

Dywedodd fod angen ystyried ffyrdd o fynd i’r afael gyda phroblem gangiau Prydain a’i fod yn “amhosib arestio eich ffordd allan o’r broblem sydd gyda ni”.

“Does dim pwynt symud plant sy’n rhan o gang i ardal eraill neu fe fyddwn nhw’n parhau i wneud yr un fath yno,” meddai.

“Mae angen digwydd ym mhob man ar yr un pryd.”

Ychwanegodd fod llawer iawn o’r terfysg diweddar “wedi ei ddechrau gan y gangiau” ond fod pobol eraill wedi eu dylanwadu gan y dyrfa ac wedi torri’r gyfraith.

“Roedd llawer iawn o bobol wedi dilyn y dorf ac wedi colli eu cwmpawd moesol. Roedden nhw’n gwybod y gwahaniaeth rhwng da a drwg.”