Mae ymchwiliad i lofruddiaeth yn mynd rhagddo ar ôl i ddyn ladd chwech o bobol, gan gynnwys tri o blant ifanc, â chyllell ar ynys Jersey.

Digwyddodd yr ymosodiad mewn fflat ac ar y stryd y tu allan brynhawn ddoe yn “un o’r llefydd saffaf yn y byd,” meddai’r heddlu.

Fe fu farw dwy ddynes, un dyn a tri phlentyn o ganlyniad i’r ymosodiad. Y gred yw eu bod nhw’n byw ar yr ynys ond dyw’r heddlu heb eu henwi nhw eto.

Dywedodd pobol leol eu bod nhw i gyd yn aelodau o’r un teulu ond doedd yr heddlu ddim yn fodlon cadarnhau hynny.

Mae dyn 30 oed yn cael ei gadw yn Ysbyty Cyffredinol Jersey ac mewn cyflwr difrifol ond sefydlog ar ôl cael llawdriniaeth.

Mae’r heddlu yn ymchwilio ond mae’n debyg nad ydyn nhw’n edrych am unrhyw un arall yn dilyn yr ymosodiad sydd wedi codi braw ar boblogaeth fach yr ynys.

“Mae Jersey yn ynys anhygoel o saff, o bosib yn un o’r llefydd saffaf yn y byd, ac mae digwyddiadau fel hyn yn anghyffredin iawn,” meddai’r Ditectif Uwch-arolygydd, Stewart Gull.

Dim ond 92,500 o bobol sy’n byw ar yr ynys sydd tua chwe milltir o un pegwn i’r llall.

Galwyd yr heddlu am 4pm gan aelod o’r cyhoedd oedd yn dweud fod pobol wedi eu trywanu mewn fflat yn Victoria Crescent, Upper Midvale Road, St Helier.

Fe fuodd pump o bobol farw yn y fan a’r lle, ac fe fu farw dynes arall yn ddiweddarach yn Ysbyty Cyffredinol Jersey.

Bu’n rhaid cau adran achosion brys yr ysbyty am ddwy awr oherwydd bod nifer y dioddefwyr mor uchel.