Perchennog siop yn edrych ar y difrod (Gwifren PA)
Mae Heddlu Llundain yn dweud bellach bod 26 o blismyn wedi cael eu hanfu yn y terfysgoedd yn Tottenham neithiwr.
Ac fe gafodd 42 o bobol eu harestio am nifer o droseddau, gan gynnwys anhrefn treisgar, torri i mewn a dwyn.
Mae gwleidyddion ac arweinwyr lleol wedi condemnio’r terfysg a ddaeth ar ôl protest heddychnlon gan deulu a chefnogwyr dyn a gafodd ei saethu gan yr heddlu ddydd Iau.
Roedd yn teithio mewn tacsi ac mae’r heddlu’n honni bod rhywun wedi saethu atyn nhw o gar. Ond mae Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu yn ymchwilio i’r achos
Ond mae nifer o bobol bellach yn ddigatre’ ar ôl i’w tai gael eu llosgi ac fe aeth criw o bobol ar y sbri mewn parc siopau ger gorsaf drenau twrch Tottenham Hale.
‘Cwbl annerbyniol’
Yn ôl llefarydd o 10 Downing Street, roedd y digwyddiadau yn “gwbl annerbyniol” ac fe ddywedodd yr Ysgrifennydd Cartref, Theresa May, na fyddai ymddygiad o’r fath yn cael ei odde’.
Roedd pobol o’r tu allan yn cael y bai am beth o’r anhrefn tra bod yr AS lleol, David Lammy, yn gofyn i bobol roi’r gorau i derfysgu.
Roedd angen atebion am yr hyn a ddigwyddodd pan gafodd Mark Duggan, 29 oed, ei saethu ond roedd yr anhrefn yn amharu ar hynny.
Fe ddigwyddodd y terfysg ar stad Broadwater Farm, lle’r oedd terfysg tebyg am achos tebyg yn 1985.