Mae undeb athrawon wedi ymateb yn chwyrn i gynllun pensiynau newydd y Llywodraeth, gan rybuddio y bydd ganddo effaith “trychinebus” ar eu galwedigaeth.

Bydd rhaid i athro sy’n ennill £25,700 y flwyddyn dalu £10 ychwanegol bob mis i mewn i’w pensiwn yn 2012/13.

Bydd rhaid i brifathro sy’n ennill £100,000 y flwyddyn dalu £100.50 ychwanegol bob mis.

Y bore ma cyhoeddodd yr Adran Addysg ymgynghoriad i’r cynllun newydd, a fydd yn dod i rym yn 2012/13.

Cyhoeddodd gweinidogion gynlluniau i newid pensiynau sector cyhoeddus y flwyddyn diwethaf, ond mae wedi bod yn gam dadleuol iawn.

Mae undebau athrawon yn honni y bydd rhaid iddyn nhw dalu mwy ond y byddwn nhw’n cael llai o arian pan maen nhw’n ymddeol.

Fe aeth tri undeb athrawon ar streic undydd fis diwethaf, ar y cyd â gweision sifil, er mwyn dangos eu gwrthwynebiad i’r cynllun.

‘Cam sinigaidd’

Dywedodd Christine Blower, ysgrifennydd cyffredinol Undeb Cenedlaethol yr Athrawon, eu bod nhw’n ystyried rhagor o weithredu diwydiannol.

“Mae yn gam sinigaidd iawn dechrau ymgynghoriad ar ddechrau gwyliau’r haf,” meddai.

“Allen ni ddim caniatáu i’r llywodraeth tynnu ein pensiynau ni’n ddarnau fel hyn. Fe fydd y canlyniadau i’r gymdeithas yn ei gyfanrwydd yn drychinebus.

“Pwy fydd yn talu am yr holl bensiynwyr sydd ddim yn gallu byw o un diwrnod i’r llall am nad oes ganddyn nhw ddigon o arian?”

Dywedodd y Gweinidog Ysgolion, Nick Gibb, fod y Llywodraeth eisiau darparu “pensiwn teg a cynaliadwy ar gyfer athrawon”.

“Mae pobol yn byw yn hirach ac mae hynny’n gwneud pensiynau yn fwy costus,” meddai.