Roedd Llywodraeth San Steffan yn ymchwilio i gefndir Andy Coulson pan ymddiswyddodd o fod yn bennaeth cyfathrebu Stryd Downing.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet, Syr Gus O’Donnell, ei fod yn mynd drwy’r broses fel bod ganddo hawl i weld dogfennau mwyaf cyfrinachol y llywodraeth.

Roedd pennaeth cyfathrebu Tony Blair, Alastair Campbell, a Michael Ellam, oedd yn gweithio i Gordon Brown, hefyd wedi mynd drwy’r un broses er mwyn cael gweld dogfennau cyfrinachol.

Mae’n debyg fod pennaeth cyfathrebu cyfredol David Cameron, Craig Oliver, yn mynd drwy’r un broses ar hyn o bryd.

Wrth ymateb i gwestiwn gan yr Aelod Seneddol Ivan Lewis, cadarnhaodd Gus O’Donnell bod Andy Coulson yn cael gweld rhai dogfennau cyfrinachol ond ddim y cwbl.

“Mae angen ymchwiliad trylwyr i gefndir unigolion cyn iddyn nhw gael gweld dogfennau o’r cyfrinachedd mwyaf,” meddai.

“Mae’r broses hir sy’n gofyn am lawer o adnoddau felly nid yw’n cael ei wneud os nad oes gofyn amlwg.

“Yn dilyn digwyddiad terfysgol mewn maes awyr yn nwyrain canolbarth Lloegr penderfynwyd y dylai Andy Coulson fynd drwy’r broses.

“Dechreuodd ym mis Tachwedd ac mae’n gallu cymryd hyd at chwe mis i’w gwblhau. Yn amlwg doedd heb ei gwblhau erbyn i Andy Coulson adael ei swydd ym mis Ionawr.

“Serch hynny fe alla’i eich sicrhau chi fod Andy Coulson yn hapus iawn i gydweithredu yn llawn â’r broses.”