Mae un o bapurau newydd Rupert Murdoch, y Times, wedi tynnu nyth cacwn i’w ben drwy gyhoeddi cartŵn dadleuol am y sgandal hacio ffonau symudol.

Mae’r cartŵn, dan y teitl ‘blaenoriaethau’, yn dangos plant yn newynu yn Affrica.

Mae un o’r plant yn dweud ei fod wedi cael “llond bol o’r hacio ffonau symudol”.

Yr awgrym yw y dylai’r wasg symud ymlaen o roi sylw i’r sgandal, a chanolbwyntio ar faterion mwy pwysig gan gynnwys y newyn yn Somalia.

Ond mae’r cartŵn wedi derbyn beirniadaeth danbaid gan rai sy’n teimlo fod News International yn ceisio defnyddio’r trychineb i’w ddibenion ei hun.

Cyhoeddwyd y cartŵn ar Twitter ac o fewn munudau roedd wedi derbyn ymateb cryf gan gyfranwyr oedd yn credu ei fod yn “warthus” ac “erchyll”.