d
David Cameron
Mae Prif Weinidog Prydain wedi ymddiheuro am yr helynt a gafodd ei achosi gan ei benderfyniad i gyflogi cyn olygydd y News of the World.

Ond fe ddywedodd David Cameron wrth Dŷ’r Cyffredin ei fod yn credu ar y pryd fod y penderfyniad yn iawn i benodi Andy Coulson yn bennaeth cyfathrebu – er ei fod wedi ymddiswyddo o’r papur newydd oherwydd y sgandal hacio ffonau.

Bellach, mae’n un o ddeg newyddiadurwr sydd wedi cael eu harestio a’u holi gan yr heddlu am yr honiadau.

“Wrth edrych yn ôl a gweld yn glir ac ystyried popeth sydd wedi dilyn, fyddwn i ddim wedi cynnig y swydd iddo ac mae’n debyg na fyddai yntau wedi ei chymryd,” meddai David Cameron.

“Ond d’ych chi ddim yn gwneud penderfyniadau wrth edrych yn ôl. R’ych chi’n byw ac yn dysgu a, choeliwch fi, dw i wedi dysgu.”

Enwi panel

Ond fe wrthododd ymddiheuro am beidio â derbyn cynnig Heddlu Llundain i gael gwybod rhagor am eu hymchwiliad i’r sgandal ac fe wadodd bod un arall o benaethiaid y News of the World, Neil Wallis, wedi cael ei gyflogi gan y Blaid Geidwadol.

Yn ystod y datganiad, fe gyhoeddodd enwau’r chwech o bobol a fydd ar banel i ymchwilio i’r berthynas rhwng y wasg a’r Heddlu.

Fe fynnodd fod y cyhoedd eisiau i’r Llywodraeth ddelio gyda’r trafferthion cyn symud ymlaen i drin materion pwysicach fyth.

“Mae hyn wedi siglo hyder y cyhoedd yn y cyfryngau a chyfreithlondeb yr hyn y maen nhw’n ei wneud, yn yr heddlu a’u gallu i ymchwilio i gamymddwyn gan y cyfryngau ac, ie, mewn gwleidyddiaeth a gallu gwleidyddion i fynd i’r afael â’r materion hyn.”