Taflodd protestiwr ‘ewyn’ gwyn at Rupert Murdoch wrth iddo ymddangos i roi tystiolaeth o flaen Aelodau Seneddol heddiw.

Bu’n rhaid oedi’r gwrandawiad i hacio ffonau symudol ym mhapur newydd y News of the World wrth i ddyn mewn crys siec gael ei lusgo ymaith gan yr heddlu.

Mae’n debyg mai Jonnie Marbles oedd enw’r dyn. Ysgrifennodd yr “ymgyrchwyr a chomedïwr” ar Twitter cyn taflu’r ‘ewyn’ i gyfeiriad Rupert Murdoch.

Roedd Rupert Murdoch a’i fab James yn agosáu at ddiwedd eu cyfnod yn rhoi tystiolaeth ar y pryd. Bu’n rhaid atal y gwrandawiad am 10 munud.

Bu;n rhaid i Rupert Murdoch ddiosg siaced ei siwt ar ôl iddo gael ei orchuddio ag ewyn.

Yn ystod y gwrandawiad roedd perchennog News International wedi dweud wrth Aelodau Seneddol nad ei gyfrifoldeb ef oedd y sgandal hacio ffonau symudol.

Dywedodd mai “y bobol oeddwn i wedi rhoi fy ffydd ynddyn nhw, ac efallai’r bobol yr oedden nhw wedi rhoi eu ffydd ynddyn nhw” oedd ar fai.

Ychwanegodd na ddylai ymddiswyddo am mai ef oedd “y person gorau i lanhau’r llanast yma”.

“Rydw i’n teimlo fod y bobol oeddwn i wedi rhoi fy ffydd ynddyn nhw wedi fy siomi i ac wedi ymddwyn mewn modd erchyll, wedi bradychu’r cwmni a bydd rhaid iddyn nhw dalu’r pris.”

Wrth roi tystiolaeth cyfaddefodd James Murdoch fod News International wedi talu’r hacwyr ffonau symudol Clive Goodman a Glenn Mulcaire oedd wedi eu cael yn euog o’r drosedd.

Dywedodd ei fod “yn synnu” bod y cwmni wedi talu rhai o gostau cyfreithiol y ddau, ond cyfaddefodd y gallai’r taliadau barhau.