Rupert Murdoch a Rebekah Brooks
Bydd Rupert Murdoch a’i fab James yn ymddangos o flaen Aelodau Seneddol heddiw er mwyn ateb cwestiynau am eu rhan yn sgandal hacio ffonau symudol y News of the World.
Fe fydd y ddau ddyn yn wynebu Pwyllgor Dethol Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon Tŷ’r Cyffredin heddiw.
Yn y cyfamser fe fydd dau ddyn arall sydd wedi gorfod ymddiswyddo ar ôl i’r sgandal ddod i’r amlwg – cyn Gomisiynydd Heddlu’r Met, Syr Paul Stephenson, a’r cyn-Gomisiynydd Cynorthwyol John Yates – yn rhoi tystiolaeth o flaen pwyllgor arall yn San Steffan.
Cytunodd Rupert Murdoch a’i fab ymddangos ar ôl i’r pwyllgor gyhoeddi gŵys yn eu gorchymyn i fod yno – gan fygwth eu dirwyo neu eu carcharu os nad oedden nhw’n bresennol.
Mewn cyfweliad herfeiddiol yn ei bapur newydd y Wall Street Journal yr wythnos diwethaf, dywedodd Rupert Murdoch y byddai yn cymryd y cyfle i ddatgelu rhai o’r “celwyddau llwyr” am ei gwmni News Corp.
Ond ers hynny mae wedi prynu hysbyseb tudalen o faint ym mhapurau newydd ei wrthwynebwyr yn ymddiheuro am y sgandal, gan awgrymu ei fod am geisio cymodi.
E fydd yn ymddangos o flaen y pwyllgor am 2.30pm yn Ystafell Wilson yn Nhŷ Portcullis, groes yr hewl i Dy’r Cyffredin.
Yn fuan wedyn bydd Rebekah Brooks, cyn Brif Weithredwr News International yn ymddangos o flaen y pwyllgor.
Fe fydd hi yn awr yn ymddangos ar wahân – tu awr yn ddiweddarach – ar ôl ymddiswyddo ddydd Gwener.
Mae hi’n ffigwr blaenllaw yn yr ymchwiliad, am mai hi oedd golygydd y News of the World pan gafodd ffon symudol y ferch ysgol llofruddiedig Milly Dowler ei hacio yn 2002.
Ond fe allai’r ffaith ei bod hi wedi ei harestio ddydd Sul gan dditectifs sy’n ymchwilio i hacio ffonau symudol gymhlethu ymchwiliad y pwyllgor.
Ychydig cyn hynny, ar hyd y coridor yn Ystafell Grimond, fe fydd Syr Paul Stephenson a John Yates yn rhoi tystiolaeth i Bwyllgor Materion Cartref Tŷ’r Cyffredin.
Mae John Yates wedi ei feirniadu am ei benderfyniad yn 2009 i beidio ail-agor ymchwiliad gwreiddiol yr heddlu yn 2006.